Lladrad cig ac anrhegion Nadolig

Twrci Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption cafodd cig gwerth £1,000 ei ddwyn o'r cigydd

Cafodd cig, arian ac anrhegion Nadolig gwerth miloedd o bunnau eu dwyn o siop gigydd yn y Rhondda.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ladron ddwyn o Siop Richards ar Ystâd Diwydiannol Llwyncelyn.

Dywed yr heddlu y dylai'r cyhoedd wrthod unrhyw gynnig o gig rhad a chysylltu â nhw cyn gynted â phosib.

Daeth y lladrad i'r amlwg wrth i'r perchennog Rhys Richards gychwyn ei waith am 5am ddydd Llun.

Anrhegion

Cafodd gwerth tua £1,000 o gig ei ddwyn o rewgelloedd, a chafodd mwy o gig ei ddwyn o gerbyd oedd wedi parcio y tu allan i'r siop.

Hefyd wedi eu dwyn oedd anrhegion Nadolig meibion Mr Richards, oedd yn cael eu cadw yn y siop.

Roedd yr anrhegion, gwerth £1,000, yn cynnwys beic BMX, gemau X-box, crys Rygbi Cymru a chrys Pêl droed Manchester United.

Cafodd £500 ei ddwyn o sêff yn y siop.

Dywed Heddlu De Cymru fod y lladron wedi cyflawni'r drosedd rywbryd wedi 5pm ddydd Sul.

Y gred yw bod y lladron wedi defnyddio cerbyd storio mawr i gludo'r nwyddau

'Cig rhad'

Dywedodd Mr Richards y byddai'r cig yn gallu cael ei ailgyflenwi ond ni fyddai'n bosib cael anrhegion eraill ar gyfer ei blant.

"O leiaf fe fyddwn ni'n gallu cyflenwi archebion ein cwsmeriaid erbyn y Nadolig," meddai.

Dywedodd y Prif Arolygydd Tony Brown: "Ni allai hyn wedi digwydd ar amser gwaeth i'r perchennog na'i gwsmeriaid, oedd wedi archebu eu cig ar gyfer y Nadolig ymlaen llaw.

"Mae'r perchennog wedi dweud wrthyf y bydd yn cyflenwi'r holl archebion felly does dim rheswm i gwsmeriaid boeni.

"Ond nid oedd yr unigolion dideimlad a gyflawnodd y lladrad i wybod hynny.

"Roedden nhw'n fodlon dinistrio Nadolig cannoedd o deuluoedd."

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Swyddfa Heddlu'r Porth ar 101 neu'n ddienw gyda Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.