Marwolaeth o achosion naturiol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod menyw yng Ngwynedd wedi marw o achosion naturiol.
Cafwyd hyd i gorff y ddynes 57 oed yn Llanddeiniolen, rhwng Bangor a Chaernarfon.
Yn gynharach, roedd yr heddlu yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, ac mae crwner y gogledd orllewin wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth.