'Y Brifwyl ar Faes y Sioe Fawr bob yn ail flwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Gerald HolthamFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gerald Holtham yn credu mai cynnal yr ŵyl ar faes y sioe bob yn ail flwyddyn yw’r dewis gorau

Dylid cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ar faes y Sioe Frenhinol bob yn ail flwyddyn.

Dyna farn yr Athro Gerald Holtham, academydd a Chadeirydd y Comisiwn ar Gyllido a Chasglu Arian i Gymru.

Mae'r Brifwyl wedi gwneud colledion o tua £120,000 dros y ddwy flynedd diwethaf.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf daeth i'r amlwg bod y Brifwyl yn Wrecsam eleni wedi gwneud colled o £90,000.

Heb fynd ati i wneud arbedion, mae'r Athro yn credu y bydd yn rhaid i drefnwyr yr ŵyl dorri nôl ar holl weithgareddau'r Maes a thu hwnt.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, ei fod yn amau a fyddai ymweld â Llanelwedd bob dwy flynedd yn digwydd er i'r brifwyl ymweld â'r Maes yn 1993.

Mewn cyfweliad gyda Post Cynta BBC Radio Cymru, dywedodd Yr Athro Holtham, yn ddelfrydol, byddai'r Brifwyl yn parhau i symud o gwmpas Cymru.

Casglu arian

"Ond mae'n ddrud iawn i wneud hynny.

"Felly efallai byddai'n rhaid cyfaddawdu ac aros mewn un lle pob yn ail flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Daeth cyhoeddiad ym mis Tachwedd bod Prifwyl Wrecsam wedi gwneud colled o £90,000 eleni

"Yn amlwg, rhaid bod rhywle yn y canolbarth, ac un posibilrwydd yw ei leoli yn Llanelwedd, achos yno mae'r Sioe Frenhinol, a'r Maes a'r holl gyfleusterau."

Rhan o'r sialens casglu arian tuag at y Brifwyl yn ôl Yr Athro Holtham yw'r holl ofynion ar y Cymry sydd am gefnogi eu diwylliant.

"Roedd yna gynnig i greu ymddiriedolaeth ar gyfer S4C, ac i bobl Cymru gyfrannu ato," meddai.

"Ond mae yna nifer cyfyngedig o achosion y gall y bobl yma cefnogi.

"Does 'na ddim dyngarwyr mawr yng Nghymru fel sydd yna yn America.

"Nid oes digon o biliwnyddion yma i gynnig eu harian.

"Nid yw'n bosib disgwyl mwy o arian oddi wrth y llywodraeth am eu bod yn torri gwariant ym mhob lle arall.

"Mae'n amhosib iddyn nhw wario mwy ar yr Eisteddfod.

"Byddai hi'n dda iawn os byddai pobl yn y gymdeithas Gymreig yn dod o hyd i'r arian ar gyfer yr Eisteddfod, ond yn awr mae'r amser yn anodd iawn i bawb, felly rwy ddim yn siŵr oes byddai hi'n bosib codi'r arian fel yna rhagor."

Tegwch

Wrth ymateb i sylwadau'r academydd dywedodd Mr Roberts bod safle'r maes amaethyddol yn ateb gofynion gwahanol i rai'r Eisteddfod.

"Wrth edrych yn ôl ar 1993, roedd 'na wyth niwrnod rhwng diwedd y Sioe Frenhinol a dechrau'r Eisteddfod.

"Roedd rhaid i'r gweithwyr weithio 24 awr y dydd er mwyn cael popeth yn barod.

"Wedi siarad â nifer o bobl sydd wedi bod yn y Sioe Frenhinol, maen nhw'n dweud na fydden nhw eisiau mynd yno ddwywaith mewn tair wythnos.

"Mae 'na alw ar bobl leol i godi £300,000 tuag at y brifwyl bob blwyddyn ac mae'n amheus gen i a fyddai'n deg disgwyl i bobl Brycheiniog a Maesyfed i godi hyn bob yn ail flwyddyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol