Derbyn cerdyn Nadolig o 1911
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwr o Abertawe wedi derbyn carden Nadolig gafodd ei ysgrifennu ganrif yn ôl.
Roedd Mark Hobbs, adeiladwr, yn gwneud gwaith ar dŷ Fictorianaidd pan gwmpodd y garden drwy twll yn y nenfwd.
Roedd y garden wedi ei hanfon ar Ragfyr 21 1911.
Cafodd ei llofnodi gan rywun o'r enw Grobity ynghyd â'r neges 'Good Remembrance of Your Friends'.
Tun baco
"Cefais sioc aruthrol i weld bod ei bod wedi ei hanfon 100 mlynedd yn ôl," meddai Mr Hobbs.
"Yn amlwg roedd y garden wedi bod mewn gwagle o dan yr estyll am yr holl amser hwn.
"Mae cynllun y garden yn llawer symlach na'r cardiau rydyn ni'n anfon at ein gilydd heddiw."
Mae Mr Hobbs wedi bod yn ceisio darganfod pwy anfonodd y garden.
Hyd yn hyn mae wedi methu dod o hyd i unrhyw un o'r enw Grobity.
"Rwy'n tybio ei fod ef neu hi yn weddol gyfoethog oherwydd wnes i ganfod y garden mewn tŷ Fictorianaidd tri llawr," meddai Mr Hobbs.
Yn ogystal â'r garden, fe wnaeth Mr Hobbs ddod o hyd i ddillad o siop leol o'r enw Griffiths and Son gyda'r pris 32 swllt a chwe cheiniog wedi'i ysgrifennu arno a thun baco gyda digon o faco ynddo i lenwi pib.
Mae Mr Hobbs yn bwriadu rhoi'r eitemau i amgueddfa leol gan obeithio y byddan nhw'n gallu darganfod pwy oedd Mr neu Mrs Grobity.
Straeon perthnasol
- 15 Rhagfyr 2011
- 11 Chwefror 2007
- 10 Hydref 2006