Llofruddiaeth: Pledio'n ddieuog

Gallt Melyd Image copyright BBC news grab
Image caption Cafwyd hyd i Mr Sarkozi nos Fawrth, Hydref 18, ym mhentref Gallt Melyd

Mae dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yn Sir Ddinbych wedi pledio'n ddieuog yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Daeth Gary Bland - 41 o Bryn Avenue, Y Rhyl - a James Siree - 21 o Vale Road, Y Rhyl - gerbron y llys ar gyhuddiad o ladd Gabor Sarkozi ym mhentref Gallt Melyd ger Prestatyn.

Bu farw Mr Sarkozi, sydd o dras Hwngaraidd - o anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn digwyddiad yn y pentref.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa, ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan Fai 8, 2012.

Straeon perthnasol