Neges Carwyn Jones i'r Lluoedd Arfog
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi recordio neges Nadolig ar gyfer aelodau o luoedd arfog y Deyrnas Unedig sy'n gwasanaethu ym mhedwar ban byd.
Ynddi mae Carwyn Jones yn cydnabod y pwysau arbennig sydd arnyn nhw.
Cafodd y neges ei recordio ar gyfer Gwasanaeth Darlledu'r Lluoedd Arfog (BFBS) a diolchodd iddyn nhw am eu gwaith.
Bydd y neges yn cael ei darlledu ar Ddydd Nadolig i aelodau'r lluoedd sy'n gwasanaethu mewn llefydd fel Ynysoedd Falkland, Cyprus, Yr Almaen, Brunei ac Afghanistan, o stiwdios BFBS yn Camp Bastion.
"Mae'r Nadolig yn amser ar gyfer y teulu a'r tylwyth, yn amser i ni ddod ynghyd i fwynhau cwmni ein gilydd," meddai Mr Jones.
"Yn achos y lluoedd arfog, mae'r amser hwn o'r flwyddyn yn gallu bod yn anodd iawn, yn arbennig i'r rhai ohonoch sydd ar wasgar ym mhedwar ban byd.
"Mae'r pethau y gofynnir i chi a'ch teuluoedd eu gwneud yn unigryw, a natur eich swydd yn wahanol i unrhyw fath arall o waith.
"Mae pob un ohonoch yn gorfod gwneud rhywfaint o aberth bersonol bob dydd."
Straen
Dywedodd bod pawb yn cydnabod y straen a'r pwysau sydd ar yr aelodau a'u teuluoedd.
"Mae hyn yn bendant yn wir ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd cymaint ohonoch ar ddyletswydd ledled y byd.
"Yng Nghymru, rydym yn dangos ein gwerthfawrogiad trwy wella ein cymorth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chefnogaeth ar gyfer y rheini ohonoch sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn ogystal â chyn-filwyr, gan wella'r cymorth mewn meysydd allweddol fel gofal iechyd, tai ac addysg.
"Rydw i am wneud yn siŵr eich bod chi a'ch teuluoedd yn cael pob cymorth posib heb fod o dan unrhyw anfantais - dyna'r lleiaf rydych chi'n ei haeddu.
"Rydw i am anfon fy nghyfarchion ar yr adeg arbennig hon o'r flwyddyn. Rydyn ni'n meddwl amdanoch chi.
"Ga' i ddymuno Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd dda ichi i gyd. Diolch o galon am bopeth."