FIFA: Cymru wedi codi i safle 48
- Cyhoeddwyd
Casglodd Cymru fwy o bwyntiau na'r un wlad arall ymysg timau pêl-droed y byd yn rhestr detholion FIFA yn 2011.
Yn ystod y flwyddyn cododd Cymru 68 safle i rif 48 o dan reolaeth Gary Speed, fu farw ym mis Tachwedd.
Mae hyn yn golygu bod Cymru wedi dringo mwy na'r un wlad arall yn ystod y flwyddyn.
Yn y rhestr fisol a gafodd ei chyhoeddi ddydd Mercher mae tîm Cymru un safle y tu ôl i'r Alban.
Yn ôl system FIFA casglodd Cymru 330 o bwyntiau eleni yn dilyn perfformiadau da yn ystod ail hanner y flwyddyn gan gynnwys buddugoliaethau yn erbyn y Swistir, Montenegro, Bwlgaria a Norwy.
Mae Gogledd Iwerddon wedi codi un safle i rif 88, mae Lloegr yn dal yn y pumed safle ond Sbaen sy'n dal ar frig y rhestr.
O ran y timau y bydd Cymru yn herio yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf mae Croatia yn yr wythfed safle, Gwlad Belg (41), Serbia (27), yr Alban (47), a FYR Macedonia (103).
Rhestr detholion FIFA - Rhagfyr 2011
Straeon perthnasol
- 23 Tachwedd 2011
- 12 Tachwedd 2011
- 19 Hydref 2011
- 11 Hydref 2011
- 7 Hydref 2011
- 2 Medi 2011