Cerddwr wedi marw wedi gwrthdrawiad â bws

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, BBC news grab
disgrifiad o’r llunCafodd 10 o'r 15 o bobl oedd yn teithio ar y bws driniaeth am sioc

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r cerddwr a fu farw ar ôl gwrthdrawiad â bws yn Abertawe.

Bu farw Richard Taylor, 26 oed, o Sgeti, yn yr ysbyty nos Fawrth wedi'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 10.44am ar Ffordd Fabian ddydd Llun.

Cafodd 10 o'r 15 o bobl oedd yn teithio ar y bws driniaeth am sioc a chafodd y ffordd ei chau am dair awr tra bod Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol