Addysg: Ymgyrchwyr yn colli apêl

Dosbarth o blant Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed y Cyngor fod galw cynyddol am addysg Gymraeg

Fe fydd cynlluniau dadleuol i ad-drefnu addysg yn ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn cael eu gweithredu.

Mae pobl oedd yn gwrthwynebu'r newid wedi colli apêl am adolygiad barnwrol.

Y bwriad ydi cau dwy ysgol cyfrwng Saesneg, a symud ysgol gynradd Gymraeg yr ardal.

Roedd Gweinidog Addysg Cymru wedi cymeradwyo'r cynllun yn Ionawr.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys.

Mae ymgyrchwyr yn anhapus gyda chynllun y Cyngor i gau ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn Eglwys Wen ac Eglwys Newydd.

Bydd ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar y safle sy'n cael ei rannu ar hyn o bryd gan ysgol Eglwys Wen ac Ysgol Melin Gruffydd, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Bydd Ysgol Melin Gruffydd yn symud i safle presennol ysgol Eglwys Newydd.

Dywed y cyngor sir fod angen y newidiadau oherwydd y galw cynyddol am addysg Gymraeg, a'r gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.