BBC Cymru Fyw

Everton 1-0 Abertawe

Published
image copyrightGetty Images
image captionLeon Osman sgoriodd unig gol y gêm

Everton 1 - 0 Abertawe

Mae record Everton o beidio â cholli mewn unrhyw gystadleuaeth yn erbyn Abertawe yn parhau yn ddiogel.

Y nhw oedd yn fuddugol o 1-0 ar Barc Goodison gan olygu bod nhw'n dringo'n uwch na'r Elyrch yn yr Uwchgynghrair.

Doedd hi ddim yn argoeli yn gêm fyddai'n gweld lawer o goliau - dim ond Wigan a QPR oedd wedi sgorio llai o goliau na'r ddau y tymor hwn.

Trydedd gôl y tymor i Leon Osman wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cyn hynny fe fethodd Osman gyda chyfle da o gic rydd gan Phil Neville, ond tarodd y bêl at Michel Vorm.

Mewn gêm digon siomedig daeth unig gyfle go iawn Abertawe oddi wrth beniad Danny Graham.

Dydd Mercher Rhagfyr 21