Gemau Olympaidd: £9 miliwn i Gymru

Safle Olympaidd Image copyright AFP
Image caption Roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais arian

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £9 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i'r arian fydd yn cael ei wario ar y Gemau Olympaidd gan Lywodraeth San Steffan.

Mae llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi bod yn ceisio am arian ychwanegol oherwydd yr arian sy'n cael eu gwario ar y gemau fydd yn cael eu cynnal yn Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr arian yn cyfateb â'r hyn sy'n ddyledus iddynt oherwydd yr arian sydd wedi ei wario ar adfywio dwyrain Llundain.

Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt bydd yn rhaid dysgu gwersi o'r anghytuno a welwyd.

Mae fformiwla arbennig yn cael ei ddefnyddio er mwyn penderfynu faint o arian sy'n ddyledus i'r gwledydd datganoledig.

Roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn anhapus yn 2007 pan benderfynodd Llywodraeth Lafur y DU na fyddai fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arian a neilltuwyd ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Ond nawr mae'r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan wedi penderfynu y bydd y gwledydd datganoledig yn derbyn £30.2 miliwn y flwyddyn nesa.

Bydd Cymru yn derbyn £8.9 miliwn, yr Alban £16 miliwn a Gogledd Iwerddon £5.4 miliwn.

Dywedodd Ms Hutt fod llywodraethau'r gwledydd datganoledig wedi "ailddatgan eu hymroddiad i sicrhau bod y Gemau yn 2012 yn llwyddiant, yn ogystal â champau eraill fydd yn cael eu cynnal yn y Deyrnas Unedig.