Angladd mam 31 oed o Benygroes

Emma Louise Jones Image copyright Other
Image caption Disgrifiodd ei thelu hi fel mam, merch, chwaer a chariad cariadus.

Cafodd angladd Emma Louise Jones ei chynnal ym Mhenygroes, Gwynedd.

Bu farw'r ddynes 31 oed ar ôl cael ei thrywanu yn gynharach y mis hwn.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Crist, Penygroes.

Dywedodd ei theulu ei bod hi'n "fam, merch, chwaer a chariad cariadus."

Mae dynes 23 oed o Lanllyfni, Alwen Eluned Jones, wedi ei chadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Bydd yn ymddangos yn y llys eto ym mis Chwefror.

Straeon perthnasol