Lladrad arfog: Heddlu'n holi tri o bobl

Yr Heddlu yn Rhydyclafdy Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed yr heddlu fod dau wn, arian a gemwaith wedi eu dwyn

Mae tri o bobl yn cael eu holi gan yr heddlu wedi i ffarmwr gael ei saethu yn ei goes yn ystod lladrad arfog honedig yn ei gartref yn Rhydyclafdy ym Mhenllyn.

Mae ynadon wedi caniatau i'r heddlu holi dau ddyn, 18 a 19 oed, a menyw 24 oed am 36 awr ychwanegol ynghylch y drosedd honedig.

Cafodd y dyn 55 oed ei saethu nos Iau diwethaf wedi i ddau ddyn fynd i'w dŷ rhwng 7pm a 8.45pm, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu fod dau wn, arian a gemwaith wedi eu dwyn cyn i'r dynion ddianc mewn car.

Mae'rheddlu'n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101, neu 0300 3300101 yng Nghymru neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.