Negeseuon 'teimladwy' ar goeden Nadolig

Coeden Nadolig Image copyright Other
Image caption Mae gadael negeseuon ar goeden wedi dod yn draddodiad yng Nghastell y Waun

Cafodd staff a gwirfoddolwyr Castell y Waun eu syfrdanu gan negeseuon teimladwy a gonest adawyd ar goeden Nadolig.

Mae ymwelwyr i'r castell, sydd yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi ysgrifennu eu gobeithion a breuddwydion ar gyfer y Nadolig ar ddarn o bapur.

Maent yna'n cael eu hongian ar Goeden Ddymuniadau, sydd wedi dod yn draddodiad yn y castell.

Dywedodd Carolyn Latham o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Mae pobl wedi gadael rhai dymuniadau teimladwy, rhai sy'n cynhesu'r galon, rhai sy'n dod â deigryn i'r llygad, a rhai lle'r ydych am ddarganfod beth ddigwyddodd nesa'.

"Byddwn yn hoffi'n fawr gwybod a gafodd y person oedd am i Trudy ei briodi adeg y Nadolig wireddu ei freuddwyd."

Dywedodd Ms Latham bod yna lawer o ddymuniadau ar gyfer heddwch, iechyd a hapusrwydd, ond hefyd rhai dymuniadau sydd yn eich stopio'n stond.

"Roedd un yn dweud 'Dwi'n dymuno i'm mam fod yn hapus bob amser' ac un arall yn dweud 'Dwi'n dymuno i'm cath fod yn fyw eto - ond dwi'n gwybod na fydd hynny'n digwydd'.

"Mae sawl un wedi dymuno am eira dros y Nadolig.

"Ond fy ffefryn yw un sy'n gofyn am geffyl ac i'w daid ennill y Loteri," meddai Ms Latham.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.