Llifogydd: Ffordd A487 wedi cau
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd yng nghanolbarth a de Cymru gan achosi i un ffordd gau.
Mae ffordd yr A487 wedi cau yn Rhydgaled ger Aberystwyth ac mae diffoddwyr tân wedi cael eu galw i ddelio â llifogydd mewn nifer o dai.
Yn sgil y llifogydd mae 'na oedi o ran traffig rhwng Llanfarian a Llanrhystud.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i siop Sainsbury's yn Ninbych-y-Pysgod oherwydd bod yna bryder y gallai llifogydd effeithio'r archfarchnad.
Yn ogystal mae yna adroddiadau o lifogydd ar y ffordd B4327 rhwng Castle Way yn Dale a Haven Road yn Hwlffordd.
Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd wyth rhybudd i fod yn barod am lifogydd posib.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol