Dyn 77 wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dyn 77 oed gafodd ei daro gan gar ym mis Tachwedd wedi marw.
Roedd y dyn yn cerdded ar Ffordd Gnoll Park ar Dachwedd 15 yn agos at garej Kwik Fit yng Nghastell-nedd.
Cafodd ei daro gan gar Vauxhall Corsa lliw arian oedd yn teithio i gyfeiriad Llansawel.
Roedd wedi ei gludo i Ysbyty Treforys gydag anafiadau i'w ben a'i asennau, ond bu farw yr wythnos yma.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad neu a welodd sut yr oedd y car Vauxhall Corsa yn cael ei yrru cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dylai tystion neu bobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.