Saethu: Rhyddhau tri pherson
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri o bobl eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar ôl cael eu holi am ddigwyddiad lle cafodd dyn 55 oed ei saethu yn ei goes.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr ymchwiliad i ladrad honedig ar fferm ym mhentref Rhydyclafdy ger Pwllheli ar Ragfyr 15 yn parhau.
Roedd yr heddlu wedi arestio dau ddyn, 18 ac 19 oed, a menyw 23 oed - y tri o ardal Blaenau Ffestiniog.
Dywedodd yr heddlu fod dau wn ynghyd ag arian a thlysau wedi cael eu dwyn.
Roedd y lladron wedi dianc mewn car ac fe gafwyd hyd i'r car yn ddiweddarach wedi ei adael.
Cafodd tri pherson hefyd eu harestio a'u holi am ymgais i ddwyn o gyfeiriad yn Chwilog ar Ragfyr 20.
Daeth cais i bobl sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101 neu 0300 33 00 101, neu fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 22 Rhagfyr 2011
- 17 Rhagfyr 2011