Canfod corff yn y Fenai

Bâd achub Image copyright BBC news grab
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10:01am

Mae Gwylwyr y Glannau o Gaergybi wedi dod o hyd i gorff yn y Fenai rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10:01am fore dydd Nadolig wedi i gerddwr weld corff yn y dŵr.

Cafodd bad achub Biwmares ei yrru i'r safle a bu tîm Gwylwyr y Glannau o Landwrog yno.

Roedd Heddlu'r Gogledd a'r gwasanaeth Ambiwlans hefyd yno.

Corff dyn oedd y corff a ganfuwyd yn agos i Gastell Caernarfon. Y gred yw ei fod yn ddyn yn ei 40au.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad, ond yn dweud ar hyn o bryd nad yw'r amgylchiadau yn amheus.

Does dim mwy o fanylion am y corff hyd yma.