Tân: Achub 13 o bobl
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i 13 o bobl gael eu hachub gan y Gwasanaeth Tân o adeilad yn Y Rhyl, Sir Dinbych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd y Dŵr am 1.28am ddydd Llun.
Dywedodd y Frigâd Dan eu bod yn ymchwilio i achos y tân oedd mewn adeilad wedi ei droi'n fflatiau.
Bu'n rhaid i rai gael triniaeth ar ôl anadlu mwg.
Ni chafodd neb anafiadau difrifol.