Buddugoliaeth i Wrecsam

AFC Telfor 0-2 Wrecsam

Teithiodd 1,800 o gefnogwyr Wrecsam i weld eu tîm yn sicrhau buddugoliaeth yn eu gem olaf o 2011.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn gorffen y flwyddyn ar frig yr adran.

Joe Clarke roddodd Wrecsam ar y blaen ar ôl 13 munud, yn dilyn peniad gan Danny Wright. Sgoriodd Clarke o chwe throedfedd.

Llwyddodd Telford i daro'r postyn ddwywaith ond peniad Jake Speight wnaeth sicrhau'r pwyntiau i'r ymwelwyr ar ôl 67 munud

Cafodd Phil Trainer, chwaraewr canol y cae Telford ei anfon o'r cae yn y munudau olaf ar ôl iddo gael ail gerdyn melyn.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wecsam wedi cael rhediad o 13 gem yn ddiguro.

Cafodd y gêm rhwng Casnewydd a Chaerfaddon ei ohirio oherwydd bod y cae dan ormod o ddŵr.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. WRECSAM 25 27 56
2. Fleetwood 25 21 54
3. Southport 26 4 48
4. Caerefrog 26 26 45
5. Luton 25 23 45
-----------------------------------------------------------------------------------------
19.CASNEWYDD 25 -7 22
20. Kettering 26 -28 22
21. Hayes a Yeading 26 -19 21
22. Alfreton 26 -26 21
22. Stockport 26 -17 20
24. Caerfaddon 25 -23 14

Rhagfyr 26, 5.15 pm