Cytundeb newydd i Giggs

Sir Alex Ferguson a Ryan Giggs Image copyright Getty Images

Mae Manchester United wedi cynnig cytundeb newydd i Ryan Gigs.

Mae Giggs, sy'n 38 oed, wedi bod ar gytundeb blwyddyn gyda'r tîm o Fanceinion ers ei ben-blwydd yn 30 oed.

Dywedodd rheolwr Manchester United Alex Ferguson: "Rydym yn gwybod na allai chwarae am byth, ond mae'n gallu chwarae am flwyddyn arall."

Mae rhai wedi cysylltu enw Giggs gyda swydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru.

Mae Giggs wedi chwarae 624 o weithiau i United gan sgorio 11 o goliau.

Mae o wedi ennill 12 o bencampwriaethau'r Uwchgynghrair, dau deitl pencampwyr Ewrop, pedwar cwpan FA Lloegr a thri chwpan Cynghrair Lloegr.