Scarlets 22 -14 Gweilch
- Published
O flaen eu torf fwyaf ar Barc y Scarlets, 14,700, fe wnaeth y tîm cartref sicrhau buddugoliaeth 22-14 yn erbyn y Gweilch.
Daw'r fuddugoliaeth ar ôl iddynt golli saith gwaith yn olynol cyn hyn i'r Gweilch.
Roedd cicio Rhys Priestland yn fwy cywir na Biggar ar ddechrau'r gêm, ac oherwydd roedd y Gweilch yn colli meddiant yn aml.
Ond roedd cryfder blaenwyr yr ymwelwyr i'w weld yn y sgarmes, a pharhaodd hi'n agos rhwng y ddau dîm.
Llwyddodd Priestland i roi mantais o 6-0 ar ôl dwy gig cosb gynnar.
Ac er mae blaenwyr y Gweilch oedd yn ymddangos yn gryfach, daeth cais cynta'r gem i'r prop Rhys Thomas.
Yn agos i'r llinell llwyddodd i daro Ryan Jones yn ôl, a chroesi'r llinell.
Llwyddodd Priestland gyda'r trosgais, ac ychwanegodd cig gosb arall i roi mantais o 16-3 ar yr egwyl.
Bwlch
Ond yn fuan wedi'r ailddechrau, roedd y bwlch wedi ei leihau i 16-9 ar ôl dwy gic gosb gan Bigger.
Parhau wnaeth ymdrech y Gweilch, gyda dwylo da yn rhyddhau Barry Davies i groesi yn y gornel.
Methodd Biggar gyda'r trosgais.
Llwyddodd Priestland i ailagor y bwlch i bum pwynt, gyda chic gosb arall.
Bu'n rhaid i'r prop Adam Jones adael y cau gydag anaf i'w wddf.
Ac roedd gwaeth i ddod o ran y Gweilch, gyda Priestland yn ychwanegu tri phwynt arall.
Er gwaetha ymdrechu'n galed tua diwedd y gêm, methiant fu ymdrechion y Gweilch i ddod o fewn saith pwynt er mwyn sicrhau pwynt bonws.
Scarlets: Liam Williams; George North; Scott Williams, Jon Davies; Sean Lamont; Rhys Priestland, Gareth Davies; Rhodri Jones, Matthew Rees (c), Rhys Thomas, Lou Reed, Dominic Day, Aaron Shingler, Rob McCusker, Ben Morgan. Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Deacon Manu, Sione Timani, Johnathan Edwards, Rhodri Williams, Stephen Jones, Iongi Viliame.
Gweilch: Barry Davies; Tommy Bowe; Andrew Bishop, Ashley Beck; Shane Williams; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Ryan Jones, Jonathan Thomas, Tom Smith, Justin Tipuric (c), Joe Bearman. Eilyddion: Mefin Davies, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, James King, George Stowers, Rhys Webb, Matthew Morgan, Hanno Dirksen
Tabl Cynghrair RaboDirect Pro12
4.45pm Rhagfyr 26