Abertawe 1 QPR 1

Danny Graham Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gôl gynta: Danny Graham

Abertawe 1 QPR 1

Wedi i QPR reoli'r chwarae am gyfnod sgoriodd Danny Graham i'r Elyrch yn erbyn y tîm oedd wedi ceisio ei brynu.

Hon oedd ei chweched gôl y tymor hwn. Fe drodd yn arbennig o dda cyn ei gyffyrddiad gwych.

Wedyn roedd cydsymud arbennig Abertawe yn creu problemau di-ri i'r ymwelwyr.

Ar ôl yr egwyl roedd QPR ar y droed flaen cyn i Mackie sgorio iddyn nhw wedi 12 munud. Neb ar ei gyfyl a thasg hawdd oedd sgorio ynghanol amddiffyn anniben.

Ar y diwedd roedd chwaraewyr Abertawe yn siomedig am eu bod yn gwybod pa mor bwysig oedd tri phwynt.

Ond roedd yr ymwelwyr yn haeddu pwynt.

Roedd 19,530 yn Stadiwm y Liberty.

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 18 +38 45
2. Man United 18 +33 45
3. Tottenham 16 +13 35
4. Chelsea 18 +15 34
-----------------------------------------------------------------------------------------
14. ABERTAWE 18 -5 19