Tân yn achosi difrod i siop a bwyty yn Y Drenewydd

Siop Spar a Bwyty Gulshan yn Y Drenewydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bu criwiau am ddwy awr yn taclo'r fflamau yn y siop a'r bwyty

Mae diffoddwyr tân yn ymchwilio i achos tân mewn bwyty a siop yn Y Drenewydd yn hwyr yn y nos.

Cychwynnodd y tân yn siop Spar ac ym mwyty Indiaidd Gulshan ar Broad Street yng nghanol y dref, tua 11.40 nos Fawrth.

Fe fu chwech o griwiau yn taclo'r fflamau am ddwy awr.

Credir bod y tân wedi cychwyn yn ddamweiniol.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru na chafodd neb eu hanafu.

Roedd 'na griwiau o'r Drenewydd, Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanidloes, Llanfair Caereinion ac Aberystwyth wedi eu galw.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu ac fe gafodd platfform uchel a chamera arbennig ei ddefnyddio.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.