Canfod corff dyn mewn cae yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth dyn a gafwyd hyd iddo mewn cae yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y corff wedi ei ganfod ger Ffordd Mostyn yn ardal Trelái o'r ddinas am 11.30am ddydd Mawrth.

Yn ôl swyddogion does 'na ddim amgylchiadau amheus.

Mae'r crwner wedi ei hysbysu.

Dydi'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ac mae'r heddlu yn parhau gydag ymholiadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol