Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ffermwr o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i bensiynwr gael ei ladd.
Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, sy'n wreiddiol o Sain Ffagan, Caerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref ar Ely Road, Chittering, Sir Caergrawnt ar Ragfyr 18.
Canlyniad archwiliad post mortem oedd iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Dywedodd Heddlu Sir Caergrawnt eu bod yn credu bod bwrgleriaeth wedi mynd yn anghywir ac wedi arwain at farwolaeth Mr Thomas.
Cafodd y dyn ei arestio y tu allan i westy Holiday Inn yng Nghaergrawnt cyn cael ei holi yng ngorsaf heddlu'r ddinas.
Cafodd dynes 21 oed ei harestio yn ogystal ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Roedd llanc 17 oed wedi cael ei arestio a'i holi ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Gwener cyn cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Cafodd Mr Thomas ei eni ar gyrion Caerdydd a bu'n ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.
Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab ond dim wyrion.
Cafodd ei gar Rover arian gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn o'i gartref a chafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt, pentref Milton.
Doedd y car ddim yn addas i fod ar y ffordd a chredir ei fod wedi cael ei ddefnyddio gan y lleidr neu ladron i ddianc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011