Cludo deifiwr o Chwarel Dorothea i'r ysbyty

Chwarel Dorothea Image copyright BBC news online
Image caption Mae dros 20 o bobl wedi eu lladd yn yr hen chwarel ers 1990

Aeth deifiwr i drafferthion mewn hen chwarel yng Ngwynedd dydd Mercher.

Cafodd y dyn ei gludo i siambr arbennig gan hofrennydd y Llu Awyr wedi'r digwyddiad tua 2.20pm yn Chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi eu bod wedi eu hysbysu am y digwyddiad gan aelod o'r cyhoedd.

Credir bod y dyn yn diodde symptomau parlys môr.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Murrayfield, Heswall, Cilgwri.

Bu aelodau o wylwyr y glannau Llandwrog yn cynorthwyo aelodau Llu Awyr Y Fali.

Mae'r chwarel tua 100 metr o ddwfn ac yn atyniad poblogaidd gyda deifwyr er nad yw'n safle swyddogol.

Ers 1990 mae dros 20 o ddeifwyr wedi cael eu lladd yno.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.