Cynllun difa gwiwerod mewn sir

Gwiwerod coch Image copyright Other
Image caption Yn gynta, bydd gwiwerod llwyd yn cael eu difa yn ardal Bangor

Mae elusen wedi datgelu cynllun i ddifa miloedd o wiwerod llwyd yn rhan o Wynedd mewn ymdrech i godi nifer y gwiwerod coch.

Y gobaith yw y bydd Ffrindiau Gwiwerod Coch Ynys Môn yn ailadrodd llwyddiant rhaglen fagwraeth ar yr ynys.

Yn gynta, fe fydd gwiwerod llwyd yn cael eu difa yn ardal Bangor lle mae nifer fach o wiwerod coch wedi cael ei gweld.

Dywedodd Dr Craig Shuttleworth o'r mudiad fod gwiwerod llwyd yn trosglwyddo firws sy'n angheuol i wiwerod coch ac yn distrywio coetir.

Maglau

Yn ôl Dr Shuttleworth, mae gwiwerod coch wedi teithio o Ynys Môn i'r tir mawr yng Ngwynedd.

Fel rhan o'r cynllun i ddifa'r gwiwerod llwyd bydd maglau yn cael eu gosod rhwng Bangor a'r Felinheli a Dyffryn Ogwen.

"Y bwriad yw ailadrodd llwyddiant y cynllun i gynyddu niferoedd y wiwer goch ddechreuon ni 12 neu 13 blynedd yn ôl," meddai Dr Shuttleworth.

"Bellach mae'r wiwer goch wedi lledu ar hyd 720 metr sgwâr ar Ynys Môn."

Salwch

Dywedodd fod gwiwerod llwyd yn lledu salwch ac yn cystadlu â'r wiwer goch am adnoddau.

"Mae angen mwy o gefnogaeth i ddifa gwiwerod llwyd," meddai.

"Mae gwiwerod llwyd yn dinistrio gerddi pobl a choetir felly mae llawer o berchnogion coetir yn cael grantiau i ddifa gwiwerod llwyd.

"Dydyn ni ddim yn bwriadu difa'r wiwer llwyd ar hyd y sir i gyd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.