Cyflwyno medal arwr o'r Rhondda i amgueddfa

Thomas Lewis Image copyright Other
Image caption Llwyddodd y cynlöwr i achub milwr arall oedd yn nhir neb am bedwar diwrnod.

Bydd medal milwr oedd yn ddewr ym Mrwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei arddangos mewn amgueddfa.

Cafodd y Preifat Thomas Lewis Fedal Ymddygiad Hynod am beryglu ei fywyd wrth achub milwr arall ym 1916.

Llwyddodd y cynlöwr i achub milwr arall oedd wedi yn nhir neb am bedwar diwrnod.

Mae teulu Thomas yn cyflwyno'r fedal i Amgueddfa'r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd ddydd Iau.

Tir neb

Ym Mrwydr y Somme lladdwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1916.

Ar y diwrnod cyntaf ar Orffennaf 1 1916, collodd Byddin Prydain 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd, y nifer uchaf yn ei hanes.

Roedd Lewis, 38 oed ar y pryd, yn wirfoddolwr yn Ail Fataliwn y Gatrawd Gymreig.

Llwyddodd i gropian 100 llath ac osgoi bwledi'r gelyn cyn cyrraedd y milwr a'i lusgo'n ôl i un o ffosydd Byddin Prydain.

'Dewrder'

Dywedodd y London Gazette ei fod wedi ei anrhydeddu am "ddewrder amlwg ac ymroddiad i ymlwybro 100 llath i achub dyn oedd wedi ei anafu".

Cafodd ei eni ym Mhentre Rhondda ym 1878 ac roedd yn un o chwech o blant ac yn fab i fowldiwr haearn.

Symudodd ef a'i wraig Mary i Gwm Rhymni lle gweithiodd fel glöwr yn un o byllau Elliott yn Nhredegar Newydd.

Cafodd ef a'i wraig bump o blant ac fe fu farw ym mis Mehefin 1944.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.