Cyfle olaf i gerdded ar leoliad estyniad trac

Lleoliad estyniad trac Rheilffordd Llangollen Image copyright Other
Image caption Bydd cyfle i gerdded rhwng Bonwm a Chorwen ar hyd hen drac rheilffordd

Mae sefydliadau busnes yng Nghorwen wedi trefnu 'cyfle olaf' i gerdded ar hyd lleoliad estyniad trac Rheilffordd Llangollen.

Bydd y daith gerdded ar yr hen drac rhwng Corwen a Bonwm yn digwydd ar Ionawr 1 cyn i'r ardal gau er mwyn i'r prosiect i estyn y rheilffordd fynd yn ei flaen.

Dywedodd George Jones o Reilffordd Llangollen: "Rydym yn gobeithio bydd y cyfle hwn i gerdded ar yr hen trac yn denu diddordeb yn estyniad newydd y rheilffordd.

"Y tro nesaf y bydd pobl yn teithio yma bydd ar drên yng ngwanwyn 2013."

Mae'r trac heb ei ddefnyddio am 46 mlynedd.

Cyn hyn roedd yn rhan o'r llinell rhwng Rhiwabon a'r Bermo.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn o faes parcio Pafiliwn Corwen am 11am ar fore Sul, Ionawr 1, ac yn gorffen wrth hen safle arosfan Bonwm.

Bydd y daith ryw 3km o hyd a disgwylir iddo gymryd tuag awr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.