Dod o hyd i ddyn wedi ei anafu ger rheilffordd yn Abertawe

Simon Menelaus Image copyright Other
Image caption Cafodd Mr Menelaus ei weld y tro diwethaf tua 8pm ar Ddydd Nadolig.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi gofyn am help y cyhoedd ar ôl i beiroanwyr ddod o hyd i ddyn ag anafiadau yn gorwedd wrth ochor rheilffordd ger Abertawe.

Roedd gan Simon Menelaus, 38 oed o ardal Treforys, anafiadau i'w ben a'i frest.

Cafodd ei weld ddiwethaf gan ei deulu noson y Nadolig.

Mae'r heddlu yn awyddus i gael gwybodaeth am ei symudiadau neu unrhyw wybodaeth all helpu eu hymholiadau.

Peirianwyr Network Rail ddaeth o hyd iddo ger pont rheilffordd Chemical Road yn ardal Cwmrhydyceirw toc cyn 1.30pm ddydd Mawrth.

'Gwybodaeth'

"Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn credu bod Simon wedi cael ei daro gan drên a does 'na ddim arwydd o amgylchiadau amheus," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd John Pyke.

"Er hynny, fe wnaeth ei deulu ei weld ddiwethaf nos Sul, Rhagfyr 25 ac felly rydyn ni am gasglu gwybodaeth am ei symudiadau rhwng 8pm y noson honno a 1.30pm ddydd Mawrth.

"Aed â Simon yn wreiddiol i Ysbyty Treforys yn Abertawe cyn cael ei symud yn ddiweddarach ddydd Mawrth i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'n parhau i fod yn wael ond mewn cyflwr sefydlog."

Oherwydd ei gyflwr ni all yr heddlu siarad â Mr Menelaus ar hyn o bryd.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 405040, gan ddynodi'r cyfeirnod 139 ar 27/12/2011.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.