Ymchwiliad i achos tân angheuol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Mae yna ymchwiliad i achos y tân
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymchwilio ar ôl i ddyn farw wedi tân mewn tŷ teras yng Nghasnewydd.
Cafodd diffoddwyr eu galw i'r tŷ yn Tewkesbury Walk tua 11.40am ddydd Mercher.
Roedd y tân wedi diffodd cyn i'r diffoddwyr gyrraedd ond cafwyd hyd i gorff y dyn, 55 oed, mewn ystafell wely.
Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Iau.