Cynllun Wicipedia i hybu tref

Y Bont ar afon Mynwy yn Nhrefynwy Image copyright Other
Image caption Bydd defnyddwyr yn gallu mynd ar daith rithwir

Mae Wicipedia yn lansio cynllun sy'n bwriadu adlewyrchu bywyd Trefynwy.

Mae'r gwyddionadur ar-lein wedi dweud mai hwn bydd ei gynllun cyntaf wedi ei seilio ar dref.

Dywedodd y gwyddoniadur eu bod am i bobl gyfrannu erthyglau a lluniau am lefydd diddorol a phwysig, pobl a henebion.

Bydd y safle ar gael mewn 270 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac fe fydd defnyddwyr yn gallu mynd ar daith rithwir o'r dref.

'Dysgu sgiliau'

Dywedodd Wicipedia eu bod yn awyddus i bobl leol fod yn rhan o'r cynllun wrth awgrymu ac ysgrifennu erthyglau, tynnu lluniau ac awgrymu cyfeiriadau defnyddiol.

"Mae yna lawer o gyfleoedd i'r gymuned, gan gynnwys dysgu sgiliau Technoleg Gwybodaeth, hanes lleol, astudiaethau natur a ieithoedd ac fe fydd yn gyfle i bobl o bob oedran gydweithio," meddai llefarydd ar ran Wicipedia.

Ychwanegodd fod y dref wedi ei dewis oherwydd ei hanes.

Trefynwy yw prif dref Sir Fynwy ac mae cyfeiriad ati yn Llyfr Domesday ym 1086.

Mae'r Cyngor Archaeoleg Brydeinig wedi dweud mai hi yw'r dref orau ond chwech ym Mhrydain.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.