Katherine Jenkins a Gethin Jones wedi gwahanu
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Katherine Jenkins a'r cyflwynydd teledu Gethin Jones yn dweud eu bod "wedi torri eu calon" ar ôl gwahanu.
Roedd y pâr wedi cyhoeddi ym mis Chwefror eu bwriad i briodi wedi i gyn-gyflwynydd y rhaglen deledu Blue Peter ofyn i'r gantores ei briodi ar ddiwedd gwyliau ym Mecsico.
Cyhoeddodd Jones, sy'n dod o Gaerdydd, a Jenkins, sy'n hannu o Gastell-nedd, eu bod wedi gwahannu ar eu cyfrifon Twitter dydd Gwener.
Strictly
Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan dîm rheoli y mezzo-soprano.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod ar y rhaglen deledu Strictly Come Dancing.
Roedd Jones yn gystadleuydd ar y sioe a Jenkins yn perfformio.
Meddai Jenkins ar ei chyfrif Twitter: "Mae'n ddrwg gennyf am fod yn dawel yn ddiweddar, ond mae gen i newyddion trist iawn.
"Mae Geth a fi wedi penderfynu gwahanu. Rydyn ni'n dau wedi torri ein calonnau."
Dywedodd Jones ar ei gyfrif Twitter: "Helo bawb. Dwi'n drist iawn i ddweud wrthoch 'mod i a Kath wedi gorffen ein perthynas.
"Mae'r ddau ohonom ni wedi torri ein calonnau."
Yn fuan ar ôl y dyweddiad dywedodd papurau newydd fod y pâr yn bwriadu priodi yng Nghymru yn ystod haf 2012.
Mae Jones wedi bod yn cyd-gyflwyno The Adventurer's Guide to Britain ar ITV1 a helpodd i lansio Apêl Pabi 2011 y Lleng Prydeinig.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2011