Lleisio barn am ddyfodol ariannol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mis yn unig sydd ar ôl ar gyfer cyflwyno tystiolaeth am ddyfodol cyllidol Cymru.
Mae'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru yn annog pobl ar hyd Cymru i leisio'u barn am "y mater pwysig hwn".
Dymuna'r comisiwn glywed barn bobl ynglŷn â pha bwerau treth a benthyca y dylid eu datganoli i Gymru a sut gellid gwella atebolrwydd ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Gall unigolion a mudiadau â diddordeb gyflwyno tystiolaeth erbyn Chwefror 3 2012.
"Ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, rydym yn annog pobl ledled Cymru i fanteisio ar y cyfle i leisio'u barn," meddai Paul Silk, y cadeirydd.
"Mae'r cwestiynau y mae'r comisiwn yn edrych arnyn nhw, gan gynnwys a ddylai Cynulliad Cymru gael y pŵer i osod cyfraddau'r dreth incwm yng Nghymru ac a ddylai Cynulliad Cymru allu benthyca er mwyn buddsoddi mewn seilwaith cyfalaf, yn hollbwysig.
"Bydd yr argymhellion yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pawb yng Nghymru, a dyna pam ei bod mor hanfodol i bobl ddefnyddio'r mis nesaf i roi gwybod i ni beth yw eu barn."
Roedd angen dadl fywiog, meddai, ynghylch beth ddylai dyfodol cyllidol Cymru fod, a thros y misoedd nesaf, maen nhw am gynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn gweld beth yw barn y cyhoedd.
Mae gwybodaeth bellach ar wefan newydd y Comisiwn.
Straeon perthnasol
- 11 Hydref 2011