BBC Cymru Fyw

Dreigiau 6-10 Scarlets

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionBlaenasgellwr y Dreigiau Gavin Thomas

Mae'r Scarlets yn mwynhau cyfnod o adfywiad yng nghynghrair y Pro12.

Gyda nifer o chwaraewyr yn eisiau, bu'n rhaid i'r ymwelwyr frwydro'n galed er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth yn Rodney Parade.

Daeth unig gais y gêm i'r blaenasgellwr Johanathan Edwards yn y chwarter cyntaf.

Llwyddodd y maswr Dan Newton, gafodd ei alw i'r tîm ar y funud olaf, gyda'r trosgais.

Daeth pwyntiau'r Dreigiau o esgid Jason Tovey yn yr hanner cyntaf.

Ond cyn chwaraewr y Dreigiau, Aled Thomas sgoriodd unig bwyntiau'r ail hanner ond hynny i'r Scarlets.

Dreigiau: Martyn Thomas; Tonderai Chavhanga; Adam Hughes, Lewis Robling; Aled Brew; Jason Tovey, Wayne Evans; Nathan Williams, Lloyd Burns, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Gavin Thomas (c), Toby Faletau. Replacements: Steve Jones, Phil Price, Dan Way, Jevon Groves, Lewis Evans, Joe Bedford, Andy Tuilagi, Will Harries.

Scarlets: Dan Newton; Viliame Iongi; Adam Warren, Gareth Maule (c); Andy Fenby, Aled Thomas, Rhodri Williams; Phil John, Ken Owens, Deacon Manu, Sione Timani, Dominic Day, Josh Turnbull, Johnathan Edwards, Kieran Murphy. Replacements: Emyr Phillips, Iestyn Thomas, Peter Edwards, Lou Reed, Richie Pugh, Gareth Davies, George North, Daniel Evans.

Tabl Cynghrair RaboDirect Pro12

Rhagfyr 30, 9.30pm