Heddlu yn canfod corff mewn llyn

Haydn Evans Image copyright Other
Image caption Does neb wedi gweld Haydn Evans ers Rhagfyr 17

Mae'r heddlu sy'n chwilio am lanc 18 oed o'r Wyddgrug sydd wedi bod ar goll ers pythefnos wedi datgan bod dillad ar gorff a gafodd eu canfod mewn llyn yn cyfateb i ddisgrifiad o'r dillad roedd e'n gwisgo pan aeth ar goll.

Does neb wedi gweld Haydn Evans ers parti gwaith yng ngwesty Garden Park ger Caer ar Ragfyr 16.

Yn hwyr brynhawn Gwener fe wnaeth tîm tanddwr yr heddlu ganfod corff mewn llyn ar dir y gwesty.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oes modd cadarnhau ar hyn o bryd mai corff Mr Evans sydd wedi ei ganfod.

Disgwylir i archwiliad post mortem gael ei gynnal ddydd Sadwrn.

Chwilio'r tir

Mae hyd at 50 o heddweision a gwirfoddolwyr wedi bod yn chwilio'r ardal ger Gwesty Carden Park yn Broxton lle cafodd Mr Evans ei weld ddiwethaf.

Cafodd ei weld am tua 1am fore Sadwrn Rhagfyr 17 ger mynedfa'r gwesty ond nid yw ei deulu wedi clywed ganddo ers hynny.

Roedd wedi mynychu parti Nadolig ei gyflogwyr, cwmni adeiladu yn Yr Wyddgrug.

Mae Heddlu Sir Caer wedi cael cymorth uned awyr a chŵn yr heddlu i archwilio'r 1,000 o erwau o amgylch y gwesty.

Roedd yr heddlu wedi apelio ar ffermwyr a thirfeidianwyr lleol archwilio unrhyw adeiladau gwag ar eu tir megis siediau, adeiladau fferm ac ati, rhag ofn bod Haydn wedi mynd yno i gysgodi o'r tywydd oer.

Mae dros 2,000 o bobl wedi ymuno â grŵp ar wefan cymdeithasol Facebook yn apelio am wybodaeth, gan gynnwys Gok Wan a Freddie Starr, sydd wedi anfon negeseuon drwy wefan Twitter.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.