Nottingham Forest 0 Caerdydd 1

Peter Whittingham a Guy Moussi Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Peter Whittingham yn cystadlu am y bêl gyda Gut Moussi

Nottingham Forest 0 Caerdydd 1

Bachodd Caerdydd ar y cyfle i roi pwysau ar Southampton, Middlesborough a West Ham ar frig y Bencampwriaeth wrth i Kenny Miller sgorio unig gôl y gêm yn erbyn Nottingham Forest ddydd Sadwrn.

Er bod yr Adar Gleision yn dal yn y bedwerydd safle erbyn hyn dim ond pum pwynt sydd rhyngddynt â Southampton sydd ar frig y tabl.

Methodd Miller ddau gyfle euraid i sgorio yn yr hanner cyntaf ond llwyddodd i rwydo gyda'i ben ar ôl 59 munud yn dilyn croesiad gan Peter Whittingham.

Cafodd Rudy Gestede gyfle i ddyblu'r fantais ond methodd gyda pheniad yn hwyr yn y gêm.

Bydd Caerdydd yn herio Reading, sydd yn y pumed safle, yn Stadiwm Caerdydd ddydd Llun.

Nott'm Forest: Camp, Cunningham, Chambers, Gunter, Lynch, McGugan, Greening, Moussi McCleary, Tudgay Findley (Derbyshire 6)

Eilyddion: Smith, Reid, Majewski, Derbyshire, Bamford

Caerdydd: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Cowie, Gunnarsson, Blake, Miller, Gestede, Mason

Eilyddion: Heaton, Gerrard, Conway, McPhail, Earnshaw

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Southampton 24 +22 47
2. Middlesbrough 24 +10 45
3. West Ham 24 +17 44
4. CAERDYDD 24 +12 42
5. Reading 24 + 9 39
6.Hull 24 + 2 39

Rhagfyr 31, 5.10 pm