Aberpennar: Ras nos Galan 2011

Ian Evans (chwith) a Shane Williams Image copyright Other
Image caption Shane Williams ac Ian Evans yn gosod y blethdorch ar fedd Guto Nyth Brân

Y chwaraewyr rygbi rhyngwladol Shane Williams ac Ian Evans oedd gwesteion arbennig ras Nos Galan Guto Nyth Bran yn Aberpennar eleni.

Mae enwau'r gwesteion arbennig yn cael eu cadw'n gyfrinach tan y noson.

Daeth mwy na 1,000 o redwyr i gystadlu yn y rasys traddodiadol nos Sadwrn.

Chwaraeodd Shane Williams, sy'n dal i chwarae i'r Gweilch, 87 tro dros ei wlad gan sgorio 59 cais tan iddo ymddeol ar ôl y gêm brawf rhwng Cymru ac Awstralia ym mis Rhagfyr.

Mae'r clo, Ian Evans, hefyd yn chwarae i'r Gweilch ac wedi ennill 17 cap dros ei wlad.

Ffotograffau

Y cyn chwaraewr pêl-droed John Hartson a'r cyn chwaraewr rygbi Mark Taylor oedd y gwesteion arbennig y llynedd a'r sêr rygbi James Hook a Jamie Roberts oedd y gwesteion arbennig ar nos Galan 2009.

Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal yng nghanol tref Aberpennar bob blwyddyn er cof am y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r ras yn coffáu camp y rhedwr Guto Nyth Brân

Mae Nos Galan, a gychwynnodd yn 1958, yn achlysur sy'n denu cynulleidfaoedd rhyngwladol, ac mae gwefan swyddogol Nos Galan yn denu trawiadau o bedwar ban y byd.

Yn ogystal â hyn, mae miloedd o bobl yn dod i strydoedd y dref bob Nos Galan er mwyn cymryd rhan yn y rasys a mwynhau'r achlysur.

Cafodd geiriau'r emyn 'Calon Lân' eu cyhoeddi yn rhaglen y digwyddiad eleni, er mwyn galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan yng Nghytgan Fawr Nos Galan - sy'n achlysur newydd sbon.

Cafodd yr emyn ei gyfansoddi yn Aberpennar gan Daniel James pan oedd e'n byw yn y dref ac fe gafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghapel Bethania yn Aberpennar ym 1910.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, sy'n aelod o Bwyllgor Nos Galan ac yn cynrychioli Ward Gorllewin Aberpennar ar y Cyngor: "Mae llawer iawn o waith yn mynd i gynhyrchu cyhoeddiad Nos Galan penigamp i gyd-fynd â'r achlysur pob blwyddyn."

Roedd Rasys Ffordd Nos Galan yn cynnwys Rasys i'r Plant, cyrhaeddiad Rhedwr Dirgel Nos Galan, y Ras Elit, Ras Hwyl a Sioe Tân Gwyllt.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.