Damwain: Pedwar yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn sir Benfro yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 11.55am ddydd Sadwrn ar yr A487 rhwng Tŷ Ddewi ac Abergwaun.
Bu'n rhaid defnyddio offer torri arbennig i ryddhau dau berson o un o'r ceir.
Mae'r pedwar bellach mewn cyflwr sefydlog yn ysbyty Withybush yn Hwlffordd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol