Tân mewn fflatiau: Ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio tân amheus a ddifrododd fflat yng Nghwm Ogwr.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i fflatiau Gorwyl tua 2.15am ddydd Sadwrn.
Y gred yw bod y tân wedi ei ddechrau'n fwriadol.
Dywedodd Ditectif Rhingyll Paul Mason o Heddlu De Cymru nad oedd unrhywun wedi eu hanafu.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.