Doc Penfro: Tân wedi difrodi tai teras
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilwyr yn honni mai tân gwyllt oedd mwy na thebyg yn gyfrifol am dân a ledodd i dri thŷ yn Noc Penfro ar Ddiwrnod Calan.
Treuliodd 25 diffoddwr tân mwy na dwy awr yn ceisio diffodd y tân wedi iddynt gael eu galw i Stryd Wellington am 0.15am asr Ionawr 1.
Y gre yw bod y tân wedi dechrau ar do un o'r tai teras cyn lledu i ddau dŷ cyfagos.
Chafodd neb eu hanafu o ganlyniad i'r digwyddiad.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol