Saundersfoot yn disgwyl mil o nofwyr

Nofwyr yn y môr yn Saundersfoot ar Ionawr 1 2011 Image copyright Other
Image caption Mentrodd 1,307 o bobl i'r môr ar Ionawr 1 2011

Mae disgwyl i dros 1,000 o bobl ddathlu'r flwyddyn newydd drwy fynd i nofio yn y môr mewn gwisg ffansi.

Fe fydd bobl yn mentro i'r môr yn Saundersfoot yn Sir Benfro a'r bwriad yw casglu arian at achosion da.

Mae 'na thema Olympaidd i'r dathliadau eleni gan fod y gemau yn cael eu cynnal yn Llundain yn yr haf.

Hwn yw'r 28ain tro i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y dref.

Crochan o dân

Fe godwyd £36,000 ar gyfer elusennau ac achosion da'r llynedd.

Ymysg y rheiny sydd yn cymryd rhan bydd Jack Hill, sy'n 83 oed, ac yn casglu arian ar gyfer Ysbyty Withybush yn Hwlffordd, timau o glwb rygbi lleol ac aelodau o Heddlu Dyfed-Powys.

Dim ond dau o bobl sydd wedi cymryd rhan ym mhob un o'r digwyddiadau ers iddo gael ei gynnal am y tro cyntaf ym 1985.

Bydd y 'ffagl Olympaidd' yn cael ei ddefnyddio i gynnau crochan o dân yn harbwr Saundersfoot tua 12.30pm pan fydd y nofwyr yn rhedeg i'r môr.

Y disgwyl yw i 7,000 o bobl wylio'r digwyddiad.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Steve Williams: "Mae'r digwyddiad hwn wedi tyfu'n aruthrol yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac rydyn ni wedi codi mwy na £350,000 dros y blynyddoedd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.