Gwreichionen yn achosi tân mewn bwyty

Credir mai gwreichionen wnaeth achosi tân mewn bwyty Indiaid yn y Fflint yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i fwyty'r Raj yn Stryd Caer toc cyn 3pm ddydd Sadwrn.

Y gred yw bod y tân yn y to wedi'i achosi'n ddamweiniol.

Llwyddodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddiffodd y fflamau gan ddefnyddio dwy injan dân

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.