Organau: Apêl am fwy o roddion
- Cyhoeddwyd

Mae achos dyn o Dde Cymru achubodd bywydau pobl drwy gyfrannu ei organau ar ôl marw o dyfiant ar yr ymennydd wedi ei amlygu i annog pobl i gyfrannu eu horganau.
Mae organnau Nigel Challenger wedi cadw dau o bobl yn fyw ac wedi helpu pedwar arall i fwynhau iechyd gwell.
Mae Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu y GIG (GGT) yn annog pobl i wneud adduned blwyddyn newydd i helpu'r 7,500 o bobl sydd ar y rhestr aros trawsblannu.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu cynllyn o gyfrannu trwy ganiatâd tybiedig erbyn 2015.
Cofrestr rhoddwyr organau
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i bobl ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG os ydynt am roi eu horganau a meinweoedd ar ôl iddynt huno.
Ond byddai cynllun Llywodraeth Cymru yn golygu y byddai rhaid i bobl ddweud os nad ydynt am i'w horganau gael eu defnyddio.
Mae'r GGT wedi cyfeirio at achos Mr Challenger, o Abertyleri, Blaenau Gwent, fu farw oherwydd tyfiant ar ei ymennydd.
Maen nhw'n honni nad yw 60% o bobl sy'n cefnogi rhoi organau wedi ymuno â'r gofrestr rhoddwyr organau.
Roedd Mr Challenger wedi cofrestru i gyfrannu organau ac o ganlyniad fe gafodd dau o bobl eu hachub ac mae pedwar arall yn mwynhau iechyd llawer gwell wedi iddynt dderbyn organau ganddo ar ôl iddo farw yn 2003.
Dywedodd ei weddw, Joanne: "Mae'n golygu llawer imi wybod bod organau wedi rhoi gobaith i'r bobl hyn.
"Roedd ei blant yn meddwl ei fod yn arwr am helpu cymaint o bobl.
"Rydw'i wedi cael cysur mawr o wybod bod dau fywyd wedi cael eu hachub."
Dywedodd Lynda Hamlyn, prif weithredwr y GGT: "Ein prif fwriad yw achub bywydau cleifion ac rydyn ni am weld mwy o bobl sy'n aros am drawsblaniadau i dderbyn yr organau maen nhw'n eu hangen.
"Mae ymchwil wedi datgelu bod mwy na 90% o bobl yn cefnogi rhoi organau ond dim ond 30% o'r boblogaeth sydd wedi ymuno â'r gofrestr rhoddwyr organau."
Straeon perthnasol
- 20 Rhagfyr 2011
- 4 Hydref 2011
- 12 Ionawr 2011
- 24 Medi 2010