RaboDirect Pro12: Gweilch 17-12 Gleision Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun, Gavin Henson yn methu â chymryd y bêl uchel y tro hwn

Llwyddodd y Gweilch i faeddu'r Gleision wrth i Gavin Henson ddychwelyd i Stadiwm Liberty am y tro cyntaf ers iddo adael y Gweilch yn Hydref 2010.

Asgellwr y Gweilch, Tommy Bowe, sgoriodd unig gais y gêm yn y 50fed munud.

Maswr y Gweilch Matthew Morgan a'r eilydd Dan Biggar giciodd 12 pwynt rhyngddyn nhw.

Leigh Halfpenny a Dan Parks rannodd bwyntiau'r Gleision.

Manylion y Timau:

Gweilch: B Davies; Bowe, Bishop, Beck, Williams; Morgan, Fotuali'i; Bevington, Hibbard, A Jones, R Jones, J Thomas, King, Tipuric, Stowers.

Eilyddion : Isaacs am Bishop (46), Biggar am Morgan (59), Webb am Fotuali'i (51), D Jones am Bevington (55), Bennett am Hibbard (55), Smith am King (6), Bearman am Stowers (56).

Ni ddefnyddiwyd: Jarvis.

Gleision: Henson; Halfpenny, Laulala, Evans, Cuthbert; Sweeney, L Williams; Yapp, Breeze, Andrews, B Davies, Tito (capt), Molitika, Navidi, Rush.

Eilyddion: Parks am Sweeney (40), Rees am L Williams (64), Hobbs am Yapp (62), R. Williams am Breeze (70), Paterson am Tito (6).

Ni ddefnyddiwyd: Harford, Robinson, Young.

Torf: 11,186

Dyfarnwr: Nigel Owens.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol