Dyn wedi marw: 'Heb esboniad'

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn 29 oed o Hwlffordd, Sir Benfro gael ei ddarganfod mewn chwarel.

Cafwyd hyd iddo yn chwarel Pantmaenog am 3.10pm ar Ionawr 1.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y farwolaeth "heb esboniad".

Caiff archwiliad post-mortem ei gynnal.

Mae ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.