Aston Villa 0-2 Abertawe

Asgellwr yr Elyrch, Nathan Dyer, yn dathlu ei gôl yn erbyn Aston Villa Image copyright Getty Images
Image caption Asgellwr yr Elyrch, Nathan Dyer, yn dathlu ei gôl yn erbyn Aston Villa

Mae Abertawe wedi ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn yr Uwchgynghrair, a hynny yn erbyn Aston Villa.

Fe wnaeth Nathan Dyer fanteisio ar bas wan gan Stephen Warnock i roi'r Elyrch ar y blaen o fewn pedair munud, a pharhaodd i fod yn ddraenen yn ystlys amddiffynwyr y tîm cartref.

Dyblodd Wayne Routledge y fantais yn fuan wedi'r egwyl, wrth rwydo ar ôl i ergyd Danny Graham daro'r postyn.

Bu bron i Charles N'Zogbia gael gôl gysur yn y funud olaf ond fe darodd y postyn, gyda'r bêl wedyn yn pasio ar hyd wyneb y gôl.

Mae'r Elyrch nawr yn codi pedwar safle yn y tabl i'r unfed safle ar ddeg.

"Ro'dd hi'n ffordd arbennig o ddechrau'r flwyddyn", meddai rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers.

O amgylch y meysydd eraill roedd buddugoliaethau i Stoke, Norwich a Chelsea.

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man City 19 +37 45
2. Man United 19 +32 45
3. Tottenham 18 +15 39
4. Chelsea 20 +14 37
-----------------------------------------------------------------------------------------
11. ABERTAWE 20 -3 23