Caerdydd 3-1 Reading

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun, Caerdydd yn dathlu gôl Aron Gunnnerson yn erbyn Reading

Cafodd Caerdydd ddechrau gwych i'r flwyddyn newydd ar ôl buddugoliaeth swmpus dros un o geffylau blaen eraill yr adran, Reading.

Joe Mason sgoriodd yn gyntaf, Aron Gunnerson beniodd yr ail, a Kenny Miller seliodd y fuddugoliaeth drwy gael blaen ei droed i'r bêl o flaen y gôl.

Rhoddodd gyn chwaraewr yr Adar Gleision, Jobi McAnuff obaith i'r ymwelwyr trwy fanteisio ar waith da Jimmy Kebe yn hwyr yn yr hanner cyntaf.

Roedd Peter Whittingham unwaith eto yn feistrolgar i'r tîm cartref.

Mae Caerdydd nawr yn codi i'r trydydd safle uwchben West Ham, a dyma eu wythfed fuddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn 12 gêm yno.