Heddlu'n awyddus i holi dyn

Llun o gamera cylch cyfyng Image copyright Other
Image caption Mae Heddlu'r De yn awyddus i holi'r dyn yma mewn cysylltiad â'r digwyddiad

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd sy'n ymchwilio i ymgais i ddwyn o siop fetio ar Ragfyr 8 wedi cyhoeddi llun dyn y maen nhw am ei holi.

Roedd hyn am 9am fore Iau, Rhagfyr 8, yn siop William Hill yn Heol Wellfield, Y Rhath.

Aeth dyn i mewn i'r siop â chyllell cegin fach cyn bygwth aelod o staff a mynnu arian.

Gwrthododd yr aelod staff cyn cloi ei hun mewn ystafell yng nghefn y siop. Gadawodd y dyn yr adeilad yn fuan wedyn.

Dylai unrhyw un sy'n adnabod y dyn yn y llun camera cylch cyfyng ffonio'r heddlu ar 029 2052 7420 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.